Marc 1:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Â dŵr y bedyddiais i chwi, ond â'r Ysbryd Glân y bydd ef yn eich bedyddio.”

9. Yn y dyddiau hynny daeth Iesu o Nasareth Galilea, a bedyddiwyd ef yn afon Iorddonen gan Ioan.

10. Ac yna, wrth iddo godi allan o'r dŵr, gwelodd y nefoedd yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno.

11. A daeth llais o'r nefoedd: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”

Marc 1