Luc 7:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Yn fuan wedyn aeth Iesu i dref a elwir Nain. Gydag ef ar y daith yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr.

12. Pan gyrhaeddodd yn agos at borth y dref, dyma gynhebrwng yn dod allan; unig fab ei fam oedd y marw, a hithau'n wraig weddw. Yr oedd tyrfa niferus o'r dref gyda hi.

13. Pan welodd yr Arglwydd hi, tosturiodd wrthi a dweud, “Paid ag wylo.”

14. Yna aeth ymlaen a chyffwrdd â'r elor. Safodd y cludwyr, ac meddai ef, “Fy machgen, rwy'n dweud wrthyt, cod.”

15. Cododd y marw ar ei eistedd a dechrau siarad, a rhoes Iesu ef i'w fam.

Luc 7