Luc 23:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Codasant oll yn dyrfa a dod ag ef gerbron Pilat.

2. Dechreusant ei gyhuddo gan ddweud, “Cawsom y dyn hwn yn arwain ein cenedl ar gyfeiliorn, yn gwahardd talu trethi i Gesar, ac yn honni mai ef yw'r Meseia, sef y brenin.”

3. Holodd Pilat ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd yntau ef, “Ti sy'n dweud hynny.”

4. Ac meddai Pilat wrth y prif offeiriaid a'r tyrfaoedd, “Nid wyf yn cael dim trosedd yn achos y dyn hwn.”

Luc 23