Luc 22:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Meddent hwy wrtho, “Ble yr wyt ti am inni ei pharatoi?”

10. Atebodd hwy, “Wedi i chwi fynd i mewn i'r ddinas fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef i'r tŷ yr â i mewn iddo,

11. a dywedwch wrth ŵr y tŷ, ‘Y mae'r Athro yn gofyn i ti, “Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?” ’

Luc 22