Luc 18:37-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

37. a mynegwyd iddo fod Iesu o Nasareth yn mynd heibio.

38. Bloeddiodd yntau, “Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf.”

39. Yr oedd y rhai ar y blaen yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd ef yn gweiddi'n uwch fyth, “Fab Dafydd, trugarha wrthyf.”

40. Safodd Iesu, a gorchymyn dod ag ef ato. Wedi i'r dyn nesáu gofynnodd Iesu iddo,

41. “Beth yr wyt ti am i mi ei wneud iti?” Meddai ef, “Syr, mae arnaf eisiau cael fy ngolwg yn ôl.”

Luc 18