Luc 13:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Ac meddai eto, “I beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?

21. Y mae'n debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu â thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl.”

22. Yr oedd yn mynd trwy'r trefi a'r pentrefi gan ddysgu, ar ei ffordd i Jerwsalem.

23. Meddai rhywun wrtho, “Arglwydd, ai ychydig yw'r rhai sy'n cael eu hachub?” Ac meddai ef wrthynt,

24. “Ymegnïwch i fynd i mewn trwy'r drws cul, oherwydd rwy'n dweud wrthych y bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ac yn methu.

Luc 13