Luc 13:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Pan welodd Iesu hi galwodd arni, “Wraig, yr wyt wedi dy waredu o'th wendid.”

13. Yna dododd ei ddwylo arni, ac ar unwaith ymunionodd drachefn, a dechrau gogoneddu Duw.

14. Ond yr oedd arweinydd y synagog yn ddig fod Iesu wedi iacháu ar y Saboth, ac meddai wrth y dyrfa, “Y mae chwe diwrnod gwaith; dewch i'ch iacháu ar y dyddiau hynny, ac nid ar y dydd Saboth.”

15. Atebodd yr Arglwydd ef, “Chwi ragrithwyr, onid yw pob un ohonoch ar y Saboth yn gollwng ei ych neu ei asyn o'r preseb ac yn mynd ag ef allan i'r dŵr?

Luc 13