Luc 1:56-61 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

56. Ac arhosodd Mair gyda hi tua thri mis, ac yna dychwelodd adref.

57. Am Elisabeth, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, a ganwyd iddi fab.

58. Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau am drugaredd fawr yr Arglwydd iddi, ac yr oeddent yn llawenychu gyda hi.

59. A'r wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei enwi ar ôl ei dad, Sachareias.

60. Ond atebodd ei fam, “Nage, Ioan yw ei enw i fod.”

61. Meddent wrthi, “Nid oes neb o'th deulu â'r enw hwnnw arno.”

Luc 1