Luc 1:40-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. aeth i dŷ Sachareias a chyfarch Elisabeth.

41. Pan glywodd hi gyfarchiad Mair, llamodd y plentyn yn ei chroth a llanwyd Elisabeth â'r Ysbryd Glân;

42. a llefodd â llais uchel, “Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth.

43. Sut y daeth i'm rhan i fod mam fy Arglwydd yn dod ataf?

44. Pan glywais dy lais yn fy nghyfarch, dyma'r plentyn yn fy nghroth yn llamu o orfoledd.

45. Gwyn ei byd yr hon a gredodd y cyflawnid yr hyn a lefarwyd wrthi gan yr Arglwydd.”

46. Ac meddai Mair:“Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd,

47. a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy Ngwaredwr,

48. am iddo ystyried distadledd ei lawforwyn.Oherwydd wele, o hyn allan fe'm gelwir yn wynfydedig gan yr holl genedlaethau,

49. oherwydd gwnaeth yr hwn sydd nerthol bethau mawr i mi,a sanctaidd yw ei enw ef;

50. y mae ei drugaredd o genhedlaeth i genhedlaethi'r rhai sydd yn ei ofni ef.

51. Gwnaeth rymuster â'i fraich,gwasgarodd y rhai balch eu calon;

52. tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau,a dyrchafodd y rhai distadl;

53. llwythodd y newynog â rhoddion,ac anfonodd y cyfoethogion ymaith yn waglaw.

54. Cynorthwyodd ef Israel ei was,gan ddwyn i'w gof ei drugaredd—

55. fel y llefarodd wrth ein hynafiaid—ei drugaredd wrth Abraham a'i had yn dragywydd.”

56. Ac arhosodd Mair gyda hi tua thri mis, ac yna dychwelodd adref.

57. Am Elisabeth, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, a ganwyd iddi fab.

Luc 1