21. Yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias, ac yn synnu ei fod yn oedi yn y cysegr.
22. A phan ddaeth allan, ni allai lefaru wrthynt, a deallasant iddo gael gweledigaeth yn y cysegr; yr oedd yntau yn amneidio arnynt ac yn parhau yn fud.
23. Pan ddaeth dyddiau ei wasanaeth i ben, dychwelodd adref.
24. Ond wedi'r dyddiau hynny beichiogodd Elisabeth ei wraig; ac fe'i cuddiodd ei hun am bum mis, gan ddweud,
25. “Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynnu ymaith fy ngwarth yng ngolwg y cyhoedd.”
26. Yn y chweched mis anfonwyd yr angel Gabriel gan Dduw i dref yng Ngalilea o'r enw Nasareth,
27. at wyryf oedd wedi ei dyweddïo i ŵr o'r enw Joseff, o dŷ Dafydd; Mair oedd enw'r wyryf.
28. Aeth yr angel ati a dweud, “Henffych well, tydi, yr un y rhoddodd Duw ei ffafr iddi! Y mae'r Arglwydd gyda thi.”
29. Ond cythryblwyd hi drwyddi gan ei eiriau, a cheisiodd ddirnad pa fath gyfarchiad a allai hwn fod.
30. Meddai'r angel wrthi, “Paid ag ofni, Mair, oherwydd cefaist ffafr gyda Duw;
31. ac wele, byddi'n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu.
32. Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad,
33. ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.”
34. Meddai Mair wrth yr angel, “Sut y digwydd hyn, gan nad wyf yn cael cyfathrach â gŵr?”
35. Atebodd yr angel hi, “Daw'r Ysbryd Glân arnat, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi; am hynny, gelwir y plentyn a genhedlir yn sanctaidd, Mab Duw.