Lefiticus 8:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Cymerodd Moses hefyd y braster ar yr ymysgaroedd, gorchudd yr iau, y ddwy aren a'r braster arnynt, a'u llosgi ar yr allor.

17. Ond llosgodd y bustach, ei groen, ei gnawd a'r gweddillion y tu allan i'r gwersyll, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

18. Yna cyflwynodd hwrdd y poethoffrwm, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ei ben.

19. Lladdodd Moses yr hwrdd a lluchio'r gwaed ar bob ochr i'r allor.

20. Torrodd yr hwrdd yn ddarnau a llosgi'r pen, y darnau a'r braster.

Lefiticus 8