Lefiticus 5:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Y mae i ddod ag ef at yr offeiriad, a bydd yntau'n cymryd dyrnaid ohono yn gyfran goffa, ac yn ei losgi ar yr allor ar ben yr offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; dyma fydd yr aberth dros bechod.

13. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth ynglŷn ag un o'r pethau hyn, ac fe faddeuir iddo. Bydd y gweddill yn eiddo i'r offeiriad, fel gyda'r bwydoffrwm.’ ”

14. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

15. “Pan fydd unrhyw un yn gwneud camwedd ac yn pechu'n anfwriadol ynglŷn â phethau sanctaidd yr ARGLWYDD, dylai ddod â hwrdd o'r praidd yn iawn i'r ARGLWYDD, a hwnnw'n un di-nam ac o'r gwerth priodol mewn siclau o arian, yn ôl sicl y cysegr; dyma fydd yr offrwm dros gamwedd.

Lefiticus 5