Lefiticus 4:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud,

2. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd unrhyw un yn pechu'n anfwriadol yn erbyn gorchmynion yr ARGLWYDD, ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud:

3. “ ‘Os yr offeiriad eneiniog fydd yn pechu ac yn dwyn euogrwydd ar y bobl, dylai ddod â bustach ifanc di-nam i'r ARGLWYDD yn aberth dros y pechod a wnaeth.

Lefiticus 4