Lefiticus 3:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. “ ‘Os gafr fydd y rhodd, dylai ei chyflwyno o flaen yr ARGLWYDD.

13. Y mae i osod ei law ar ei phen a'i lladd o flaen pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron yn lluchio'i gwaed ar bob ochr i'r allor.

14. Ohoni y mae i ddod ag offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD: y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,

15. y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.

Lefiticus 3