Lefiticus 20:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Os bydd dyn yn gorwedd gyda gwraig ei dad, y mae wedi amharchu ei dad; y mae'r ddau ohonynt i'w rhoi i farwolaeth, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.

12. Os bydd dyn yn gorwedd gyda'i ferch-yng-nghyfraith, y mae'r ddau ohonynt i'w rhoi i farwolaeth; gwnaethant wyrni, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.

13. Os bydd dyn yn gorwedd gyda dyn fel gyda gwraig, y mae'r ddau wedi gwneud ffieidd-dra; y maent i'w rhoi i farwolaeth, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.

14. Os bydd dyn yn priodi gwraig a'i mam, y mae'n gwneud anlladrwydd. Y mae ef a hwythau i'w llosgi yn y tân, rhag i anlladrwydd fod yn eich mysg.

15. Os bydd dyn yn gorwedd gydag anifail, y mae i'w roi i farwolaeth, a rhaid lladd yr anifail.

Lefiticus 20