Lefiticus 2:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “ ‘Pan fydd rhywun yn dod â bwydoffrwm i'r ARGLWYDD, bydded ei offrwm o beilliaid ag olew wedi ei dywallt drosto a thus wedi ei roi arno.

2. Y mae i fynd ag ef at feibion Aaron, yr offeiriaid; yna bydd offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r peilliaid a'r olew, ynghyd â'r holl thus, ac yn ei losgi'n gyfran goffa ar yr allor, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

Lefiticus 2