Lefiticus 19:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Ond yn y bumed flwyddyn cewch fwyta'i ffrwyth, er mwyn iddi ffrwythloni rhagor. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

26. “ ‘Nid ydych i fwyta dim gyda gwaed ynddo. Nid ydych i arfer dewiniaeth na swyngyfaredd.

27. Nid ydych i dorri'r gwallt ar ochr eich pennau, na thorri ymylon eich barf.

28. Nid ydych i wneud toriadau i'ch cnawd er mwyn y meirw, nac i ysgythru nodau arnoch eich hunain. Myfi yw'r ARGLWYDD.

Lefiticus 19