Lefiticus 19:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. “Dywed wrth holl gynulleidfa pobl Israel, ‘Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD eich Duw, yn sanctaidd.

3. Y mae pob un ohonoch i barchu ei fam a'i dad, ac yr ydych i gadw fy Sabothau. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

4. Peidiwch â throi at eilunod na gwneud ichwi eich hunain ddelwau tawdd. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

5. “ ‘Pan fyddwch yn cyflwyno heddoffrwm i'r ARGLWYDD, offrymwch ef mewn ffordd a fydd yn dderbyniol.

Lefiticus 19