Lefiticus 19:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. “ ‘Nid wyt i gasáu dy frawd a'th chwaer yn dy galon, ond yr wyt i geryddu dy gymydog rhag iti fod yn gyfrifol am ei drosedd.

18. Nid wyt i geisio dial ar un o'th bobl, na dal dig tuag ato, ond yr wyt i garu dy gymydog fel ti dy hun. Myfi yw'r ARGLWYDD.

19. “ ‘Yr ydych i gadw fy neddfau. Nid wyt i groesi anifeiliaid gwahanol, hau dy faes â hadau gwahanol, na gwisgo dillad o ddeunydd cymysg.

20. “ ‘Os bydd dyn yn gorwedd mewn cyfathrach â gwraig, a hithau'n gaethferch wedi ei dyweddïo i ŵr ond heb ei phrynu'n ôl na'i rhyddhau, bydd yn rhaid eu cosbi. Ond nid ydynt i'w rhoi i farwolaeth am nad oedd hi'n rhydd;

Lefiticus 19