Lefiticus 14:37-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

37. Bydd yn archwilio'r malltod ym muriau'r tŷ, ac os caiff agennau gwyrddion neu gochion sy'n ymddangos yn ddyfnach nag wyneb y mur,

38. bydd yr offeiriad yn mynd allan o'r tŷ at y drws ac yn cau'r tŷ am saith diwrnod.

39. Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn dychwelyd i archwilio'r tŷ. Os bydd y malltod wedi lledu ar furiau'r tŷ,

40. bydd yr offeiriad yn gorchymyn tynnu allan y meini y mae'r malltod ynddynt, a'u lluchio i le aflan y tu allan i'r ddinas,

41. a hefyd crafu muriau'r tŷ oddi mewn, a lluchio'r plastr a dynnir i le aflan y tu allan i'r ddinas.

42. Yna byddant yn cymryd meini eraill ac yn eu rhoi yn lle'r rhai a dynnwyd, a hefyd plastr arall a phlastro'r tŷ.

43. “Os bydd y malltod yn torri allan eilwaith yn y tŷ ar ôl tynnu allan y meini a chrafu'r muriau a phlastro,

44. bydd yr offeiriad yn dod i'w archwilio, ac os bydd y malltod wedi lledu yn y tŷ, y mae'n falltod dinistriol; y mae'r tŷ yn aflan.

45. Rhaid tynnu'r tŷ i lawr, yn gerrig, coed a'r holl blastr, a mynd â hwy i le aflan y tu allan i'r ddinas.

46. Bydd unrhyw un sy'n mynd i'r tŷ tra bydd wedi ei gau yn aflan hyd yr hwyr.

47. Y mae unrhyw un sy'n cysgu neu'n bwyta yn y tŷ i olchi ei ddillad.

48. “Os bydd yr offeiriad yn dod i archwilio, a'r malltod heb ledu ar ôl plastro'r tŷ, bydd yn cyhoeddi'r tŷ yn lân oherwydd i'r malltod gilio.

49. I buro'r tŷ bydd yn cymryd dau aderyn, pren cedrwydd, edau ysgarlad ac isop.

50. Bydd yn lladd un o'r adar uwchben dŵr croyw mewn llestr pridd,

51. ac yna'n cymryd y pren cedrwydd, yr isop, yr edau ysgarlad a'r aderyn byw, ac yn eu trochi yng ngwaed yr aderyn a laddwyd ac yn y dŵr croyw, ac yn taenellu'r tŷ seithwaith.

52. Bydd yn puro'r tŷ â gwaed yr aderyn, y dŵr croyw, yr aderyn byw, y pren cedrwydd, yr isop a'r edau ysgarlad.

53. Yna bydd yn gollwng yr aderyn byw yn rhydd y tu allan i'r ddinas. Bydd yn gwneud cymod dros y tŷ, a bydd yn lân.”

54. Dyma'r gyfraith ynglŷn ag unrhyw glefyd heintus, clafr,

55. haint mewn dillad neu dŷ,

56. chwydd, brech neu smotyn,

57. i benderfynu pryd y mae'n aflan a phryd y mae'n lân. Dyma'r gyfraith ynglŷn â haint.

Lefiticus 14