Lefiticus 14:35-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. dylai perchennog y tŷ fynd at yr offeiriad a dweud wrtho fod rhywbeth tebyg i falltod wedi ymddangos yn y tŷ.

36. Bydd yr offeiriad yn gorchymyn gwagio'r tŷ cyn iddo ef fynd i mewn i archwilio'r malltod, rhag i bopeth sydd yn y tŷ gael ei gyhoeddi'n aflan; wedyn bydd yr offeiriad yn mynd i mewn i archwilio'r tŷ.

37. Bydd yn archwilio'r malltod ym muriau'r tŷ, ac os caiff agennau gwyrddion neu gochion sy'n ymddangos yn ddyfnach nag wyneb y mur,

38. bydd yr offeiriad yn mynd allan o'r tŷ at y drws ac yn cau'r tŷ am saith diwrnod.

39. Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn dychwelyd i archwilio'r tŷ. Os bydd y malltod wedi lledu ar furiau'r tŷ,

Lefiticus 14