Judith 9:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Dyma'r Asyriaid wedi cynyddu yn eu nerth, yn ymfalchïo yn eu meirch a'u marchogion, yn ymffrostio yn nerth eu gwŷr traed, yn ymddiried mewn tarian a phicell, mewn bwa a ffon-dafl; ni wyddant mai ti yw'r Arglwydd sy'n rhoi terfyn ar ryfel. Yr Arglwydd yw dy enw.

8. Rhwyga di eu cryfder yn dy nerth, a dryllia eu cadernid yn dy lid. Oherwydd eu bwriad yw halogi dy deml, difwyno'r tabernacl sy'n drigfan i'th enw gogoneddus, a bwrw i lawr â chleddyf gorn dy allor.

9. Edrych ar eu balchder, tywallt dy lid ar eu pennau, a rho i mi sy'n weddw law nerthol i gyflawni fy mwriad.

10. Trwy dwyll fy ngwefusau taro'r caethwas gyda'r tywysog a'r tywysog gyda'i was; dryllia eu balchder trwy law benyw.

Judith 9