6. Ond pan ddychwelaf, caiff cleddyfau fy milwyr a gwaywffyn fy ngosgordd dy drywanu drwy dy ystlysau, ac fe syrthi dithau ymhlith eu clwyfedigion.
7. Yn awr, caiff fy ngweision dy gymryd di i ffwrdd i'r mynydd-dir, a'th roi yn un o drefi'r bylchau,
8. ond ni chei di farw nes iti gael dy lwyr ddifetha gyda hwy.
9. Os wyt yn wir yn hyderus na chymerir hwy, paid ag edrych mor ddigalon. Lleferais, ac ni fydd un o'm geiriau nas cyflawnir.”
10. Gorchmynnodd Holoffernes i'r gweision hynny a oedd ganddo yn ei babell afael yn Achior, a mynd ag ef i Bethulia i'w drosglwyddo i'r Israeliaid.
11. Gafaelodd y gweision ynddo a'i ddwyn allan o'r gwersyll i'r gwastatir, a mynd oddi yno i'r mynydd-dir, nes cyrraedd y ffynhonnau islaw Bethulia.
12. Gwelodd trigolion y dref hwy; codasant eu harfau a mynd allan o'r dref i gopa'r mynydd, a'u ffon-daflwyr i gyd yn lluchio cerrig at y gelyn, i'w rhwystro rhag dringo i fyny.