Judith 3:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ein ffermydd, ein holl dir, ein holl feysydd gwenith, ein defaid a'n gwartheg a'n holl gorlannau a'n pebyll, eiddot ti ydynt; defnyddia hwy fel y mynni.

4. Ein trefi a'u trigolion, dy gaethweision di ydynt; tyrd a'u trin hwy fel y gweli'n dda.”

5. Dychwelodd y cenhadau at Holoffernes ac adrodd y geiriau hyn iddo.

6. Daeth i lawr i'r arfordir, ef a'i fyddin, a gosod gwarchodwyr ar y trefi caerog, gan gymryd gwŷr dethol o'u plith fel cynghreiriaid.

7. Rhoesant hwy a'r holl wlad oddi amgylch groeso iddo â thorchau, â dawnsiau ac â thabyrddau.

Judith 3