Judith 2:22-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Oddi yno symudodd Holoffernes ymlaen i'r mynydd-dir gyda'i holl fyddin, ei wŷr traed a'i wŷr meirch a'i gerbydau.

23. Difrododd Phwd a Lwd, ac anrheithio holl drigolion Rassis a'r Ismaeliaid ar ffin yr anialwch i'r de o wlad y Cheliaid.

24. Dilynodd Afon Ewffrates, a thramwyo drwy Mesopotamia gan lwyr ddinistrio'r holl drefi caerog ar lannau Afon Abron hyd at y môr.

25. Meddiannodd diriogaeth Cilicia, a lladd pawb a'i gwrthwynebai. Yna aeth i'r de i gyffiniau Jaffeth, a oedd yn ffinio ar Arabia.

26. Amgylchynodd yr holl Fidianiaid, a llosgi eu pebyll ac ysbeilio'u corlannau.

27. Aeth i lawr i wastatir Damascus ar adeg y cynhaeaf gwenith, a llosgi eu holl gnydau, difrodi eu defaid a'u gwartheg, dinistrio'u trefi, dinoethi eu meysydd, a thrywanu eu holl wŷr ifainc â min y cledd.

Judith 2