Judith 10:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. “Bydded i Dduw ein hynafiaid ganiatáu o'i ffafr iti gyflawni dy fwriadau er gogoniant i blant Israel a dyrchafiad i Jerwsalem.” Yna addolodd Judith Dduw a dweud:

9. “Gorchmynnwch iddynt agor porth y dref, ac mi af allan i gyflawni'r pethau y buoch yn siarad â mi amdanynt.” Gorchmynasant i'r gwŷr ifainc agor iddi, yn unol â'i chais. Gwnaethant felly,

10. ac aeth Judith allan, a'i llawforwyn gyda hi. Yr oedd gwŷr y dref yn ei gwylio hi'n mynd i lawr y mynydd nes iddi groesi'r dyffryn a diflannu o'u golwg.

11. Aeth y ddwy yn syth ymlaen trwy'r dyffryn, a daeth nifer o wylwyr yr Asyriaid i'w chyfarfod.

Judith 10