Judith 1:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg anfonodd ei fyddin i ryfela yn erbyn y Brenin Arffaxad; bu'n fuddugoliaethus yn y frwydr a gyrru byddin Arffaxad ar ffo, ynghyd â'i holl wŷr meirch a'i holl gerbydau.

14. Meddiannodd ei ddinasoedd, ac wedi cyrraedd Ecbatana, goresgynnodd ei thyrau ac ysbeilio'i heolydd llydan, gan droi ysblander y ddinas yn waradwydd llwyr.

15. Daliodd Arffaxad ym mynyddoedd Ragau, trywanodd ef â'i bicellau, a'i lwyr ddifodi unwaith ac am byth.

16. Yna, dychwelsant i Ninefe, ef a'i fintai gymysg, yn llu enfawr o filwyr. Yno bu'n gorffwys a gwledda gyda'i fyddin am gant ac ugain o ddyddiau.

Judith 1