Josua 9:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Gwnaeth Josua heddwch â hwy, a gwneud cyfamod i'w harbed, a thyngodd arweinwyr y gynulleidfa iddynt.

16. Ymhen tridiau wedi iddynt wneud y cyfamod â hwy, clywsant mai cymdogion yn byw yn eu hymyl oeddent.

17. Wrth i'r Israeliaid deithio ymlaen, daethant ar y trydydd dydd i'w trefi hwy, Gibeon, Ceffira, Beeroth a Ciriath-jearim.

Josua 9