Josua 6:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Yna llosgasant y ddinas a phopeth ynddi â thân, ond rhoesant yr arian a'r aur a'r offer pres a haearn yn nhrysorfa tŷ'r ARGLWYDD.

25. Ond arbedodd Josua Rahab y butain a'i theulu a phawb oedd yn perthyn iddi, am iddi guddio'r negeswyr a anfonodd Josua i ysbïo Jericho; ac y maent yn byw ymhlith yr Israeliaid hyd y dydd hwn.

26. A'r pryd hwnnw cyhoeddodd Josua y llw hwn, a dweud:“Melltigedig gerbron yr ARGLWYDDfyddo'r sawl a gyfyd ac a adeilada'r ddinas hon, Jericho;ar draul ei gyntafanedig y gesyd ei seiliau hi,ac ar draul ei fab ieuengaf y cyfyd ei phyrth.”

27. Bu'r ARGLWYDD gyda Josua, ac aeth sôn amdano trwy'r holl wlad.

Josua 6