Josua 24:31-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Gwasanaethodd Israel yr ARGLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau'r henuriaid hynny a oroesodd Josua ac a wyddai am yr y cyfan a wnaeth yr ARGLWYDD dros Israel.

32. Yr oedd yr Israeliaid wedi cludo esgyrn Joseff o'r Aifft, a chladdwyd hwy yn Sichem yn y llain o dir a brynodd Jacob gan feibion Hamor, tad Sichem, am gant o ddarnau arian, i fod yn eiddo i blant Joseff.

33. Pan fu farw Eleasar fab Aaron, claddwyd ef yn y bryn a roddwyd i'w fab Phinees ym mynydd-dir Effraim.

Josua 24