Josua 21:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Pan ddisgynnodd y coelbren ar deuluoedd y Cohathiaid, cafodd y Lefiaid a hanoedd o Aaron yr offeiriad dair dinas ar ddeg trwy'r coelbren gan lwythau Jwda, Simeon a Benjamin.

5. Cafodd gweddill y Cohathiaid ddeg dinas trwy'r coelbren gan deuluoedd llwyth Effraim, llwyth Dan, a hanner llwyth Manasse.

6. Cafodd y Gersoniaid dair dinas ar ddeg yn Basan trwy'r coelbren gan deuluoedd llwyth Issachar, llwyth Aser, llwyth Nafftali a hanner llwyth Manasse.

7. Cafodd y Merariaid ddeuddeg dinas, yn ôl eu teuluoedd, gan lwythau Reuben, Gad a Sabulon.

8. Rhoddodd yr Israeliaid y dinasoedd hyn a'u porfeydd i'r Lefiaid trwy'r coelbren, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

Josua 21