Josua 2:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. pan fyddwn yn dod i mewn i'r wlad, os na fyddi wedi rhwymo'r edau ysgarlad hon yn y ffenestr y gollyngaist ni drwyddi, ac wedi galw ynghyd i'r tŷ dy dad a'th fam, dy frodyr a'th deulu i gyd.

19. Pwy bynnag a â allan trwy ddrws dy dŷ, bydd yn gyfrifol am ei waed ei hun, a byddwn ni'n ddieuog; ond pwy bynnag a fydd gyda thi yn y tŷ, byddwn ni'n gyfrifol am ei waed os codir llaw yn ei erbyn.

20. Os datgeli ein cyfrinach, byddwn yn rhydd o'r llw y gwnaethost inni ei dyngu iti.”

21. Atebodd hithau, “Rwy'n cytuno”; ac anfonodd hwy ar eu taith. Wedi iddynt fynd, rhwymodd yr edau ysgarlad yn y ffenestr.

22. Aethant hwythau, a chyrraedd y mynyddoedd ac aros yno dridiau, nes i'r ymlidwyr ddychwelyd.

Josua 2