Josua 19:19-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Haffraim, Sihon, Anaharath,

20. Rabbith, Cision, Abes,

21. Remeth, En-gannim, En-hada a Beth-passes.

22. Yr oedd y terfyn yn cyffwrdd â Tabor, Sahasima a Beth-semes, ac yn cyrraedd yr Iorddonen: un ar bymtheg o drefi a'u pentrefi.

23. Dyma etifeddiaeth llwyth Issachar yn ôl eu tylwythau, yn drefi a'u pentrefi.

24. Disgynnodd y pumed coelbren i lwyth Aser yn ôl eu tylwythau.

25. Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Helcath, Hali, Beten, Achsaff,

26. Alammelech, Amad a Misal; yn y gorllewin yr oedd eu terfyn yn cyffwrdd â Charmel a Sihor Libnath.

Josua 19