Josua 19:17-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. I Issachar y disgynnodd y pedwerydd coelbren, i lwyth Issachar yn ôl eu tylwythau.

18. Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Jesreel, Cesuloth, Sunem,

19. Haffraim, Sihon, Anaharath,

20. Rabbith, Cision, Abes,

21. Remeth, En-gannim, En-hada a Beth-passes.

22. Yr oedd y terfyn yn cyffwrdd â Tabor, Sahasima a Beth-semes, ac yn cyrraedd yr Iorddonen: un ar bymtheg o drefi a'u pentrefi.

23. Dyma etifeddiaeth llwyth Issachar yn ôl eu tylwythau, yn drefi a'u pentrefi.

24. Disgynnodd y pumed coelbren i lwyth Aser yn ôl eu tylwythau.

Josua 19