Josua 10:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Cododd hyn ofn mawr arno, oherwydd yr oedd Gibeon yn ddinas fawr fel un o'r dinasoedd brenhinol; yr oedd, yn wir, yn fwy nag Ai, a'i holl ddynion yn rhyfelwyr praff.

3. Anfonodd Adonisedec brenin Jerwsalem at Hoham brenin Hebron, Piram brenin Jarmuth, Jaffia brenin Lachis a Debir brenin Eglon, a dweud,

4. “Dewch i fyny i'm cynorthwyo i ymosod ar Gibeon am iddi wneud heddwch â Josua a'r Israeliaid.”

5. Felly fe ymgynullodd pum brenin yr Amoriaid, sef brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Jarmuth, Lachis ac Eglon, ac aethant hwy a'u holl luoedd i fyny a gwarchae ar Gibeon ac ymosod arni.

Josua 10