Jona 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd Jona'n anfodlon iawn am hyn, a theimlai'n ddig.

2. Yna gweddïodd ar yr ARGLWYDD a dweud, “Yn awr, ARGLWYDD, onid hyn a ddywedais pan oeddwn gartref? Dyna pam yr achubais y blaen trwy ffoi i Tarsis. Gwyddwn dy fod yn Dduw graslon a thrugarog, araf i ddigio, mawr o dosturi ac yn edifar ganddo wneud niwed.

3. Yn awr, ARGLWYDD, cymer fy mywyd oddi arnaf; gwell gennyf farw na byw.”

4. Atebodd Duw, “A yw'n iawn iti deimlo'n ddig?”

5. Aeth Jona allan ac aros i'r dwyrain o'r ddinas. Gwnaeth gaban iddo'i hun yno, ac eistedd yn ei gysgod i weld beth a ddigwyddai i'r ddinas.

Jona 4