Job 8:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Pan bechodd dy feibion yn ei erbyn,fe'u trosglwyddodd i afael eu trosedd.

5. Os ceisi di Dduw yn ddyfal,ac ymbil ar yr Hollalluog,

6. ac os wyt yn bur ac uniawn,yna fe wylia ef drosot,a'th adfer i'th safle o gyfiawnder.

7. Pe byddai dy ddechreuad yn fychan,byddai dy ddiwedd yn fawr.

8. “Yn awr gofyn i'r oes a fu,ac ystyria'r hyn a ganfu'r hynafiaid.

Job 8