Job 6:21-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Felly yr ydych chwithau i mi;gwelwch drychineb, a dychrynwch.

22. A ddywedais o gwbl, ‘Rhowch imi,ac estynnwch rodd drosof o'ch cyfoeth;

23. achubwch fi o afael y gelyn,a rhyddhewch fi o afael gormeswyr’?

24. “Hyfforddwch fi, a thawaf;a dangoswch imi sut y cyfeiliornais.

25. Mor ddi-flas yw geiriau uniawn!Pa gerydd sydd yng ngherydd un ohonoch chwi?

26. A ydych yn credu y gallwch geryddu geiriau,gan fod ymadroddion y diobaith yn wynt?

Job 6