Job 6:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Twyllodd fy mrodyr fi fel ffrwd ysbeidiol;fel nentydd sy'n gorlifo,

16. yn dywyll gan rew,ac eira yn cuddio ynddynt.

17. Ond pan ddaw poethder fe beidiant,ac yn y gwres diflannant o'u lle.

18. Troella'r carafanau yn eu ffyrdd,crwydrant i'r diffeithle, a chollir hwy.

19. Y mae carafanau Tema yn edrych amdanynt,a marsiandïwyr Sheba yn disgwyl wrthynt.

Job 6