Job 5:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Y mae'r newynog yn bwyta'i gynhaeaf ef,ac yn ei gymryd hyd yn oed o blith y drain;ac y mae'r sychedig yn dyheu am eu cyfoeth.

6. Canys nid o'r pridd y daw gofid,nac o'r ddaear orthrymder;

7. ond genir dynion i orthrymder,cyn sicred ag y tasga'r gwreichion.

8. “Ond myfi, ceisio Duw a wnawn i,a gosod fy achos o'i flaen ef,

9. yr un a gyflawna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy,rhyfeddodau dirifedi.

Job 5