Job 42:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. “Gwn dy fod yn gallu gwneud popeth,ac nad oes dim yn amhosibl i ti.

3. Meddi, ‘Pwy yw hwn sy'n cuddio deall â geiriau diwybod?’Yn wir, rwyf wedi mynegi pethau nad oeddwn yn eu deall,pethau rhyfeddol, tu hwnt i'm dirnad.

4. Yn awr gwrando, a gad i mi lefaru;fe holaf fi di, a chei dithau f'ateb.

5. Trwy glywed yn unig y gwyddwn amdanat,ond yn awr rwyf wedi dy weld â'm llygaid fy hun.

6. Am hynny rwyf yn fy ffieiddio fy hunan,ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.”

Job 42