Job 41:8-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Os gosodi dy law arno,fe gofi am yr ysgarmes, ac ni wnei hyn eto.

9. Yn wir twyllodrus yw ei lonyddwch;onid yw ei olwg yn peri arswyd?

10. Nid oes neb yn ddigon eofn i'w gynhyrfu;a phwy a all sefyll o'i flaen?

11. Pwy a ddaw ag ef ataf, imi gael rhoi gwobr iddoo'r cyfan sydd gennyf dan y nef?

12. Ni pheidiaf â sôn am ei aelodau,ei gryfder a'i ffurf gytbwys.

13. Pwy a all agor ei wisg uchaf,neu drywanu ei groen dauddyblyg?

14. Pwy a all agor dorau ei geg,a'r dannedd o'i chwmpas yn codi arswyd?

15. Y mae ei gefn fel rhesi o darianauwedi eu cau'n dynn â sêl.

Job 41