Job 41:30-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Oddi tano y mae fel darnau miniog o lestri,a gwna rychau fel og ar y llaid.

31. Gwna i'r dyfnder ferwi fel crochan;gwna'r môr fel eli wedi ei gymysgu.

32. Gedy lwybr gwyn ar ei ôl,a gwna i'r dyfnder ymddangos yn benwyn.

33. Nid oes tebyg iddo ar y ddaear,creadur heb ofn dim arno.

34. Y mae'n edrych i lawr ar bopeth uchel;ef yw brenin yr holl anifeiliaid balch.”

Job 41