Job 41:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Pwy a all agor ei wisg uchaf,neu drywanu ei groen dauddyblyg?

14. Pwy a all agor dorau ei geg,a'r dannedd o'i chwmpas yn codi arswyd?

15. Y mae ei gefn fel rhesi o darianauwedi eu cau'n dynn â sêl.

16. Y maent yn glòs wrth ei gilydd,heb fwlch o gwbl rhyngddynt.

17. Y mae'r naill yn cydio mor dynn wrth y llall,fel na ellir eu gwahanu.

Job 41