Job 40:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. A oes gennyt nerth fel sydd gan Dduw?A fedri daranu â'th lais fel y gwna ef?

10. “Addurna dy hun â balchder ac urddas,a gwisga ogoniant a harddwch.

11. Gollwng yn rhydd angerdd dy ddig;edrych ar bob balch, i'w daflu i'r llawr.

12. Sylwa ar bob balchder, i'w ddiraddio;sathra'r rhai drygionus yn eu lle.

13. Cuddia hwy i gyd yn y llwch;cuddia'u hwynebau o'r golwg.

14. Yna fe'th ganmolafam fod dy law dde'n dy waredu.

Job 40