Job 4:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Peidia rhu'r llew a llais y llew cryf;pydra dannedd y llewod ifanc.

11. Bydd farw'r hen lew o eisiau ysglyfaeth,a gwneir yn amddifad genawon y llewes.

12. ‘Daeth gair ataf fi yn ddirgel;daliodd fy nghlust sibrwd ohono

13. yn y cynnwrf a ddaw gyda gweledigaethau'r nos,pan ddaw trymgwsg ar bawb.’

14. Daeth dychryn a chryndod arnaf,a chynhyrfu fy holl esgyrn.

Job 4