Job 39:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. “Pwy sy'n rhoi ei ryddid i'r asyn gwyllt,ac yn datod rhwymau'r asyn cyflym

6. y rhoddais yr anialdir yn gynefin iddo,a thir diffaith yn lle iddo fyw?

7. Y mae'n gas ganddo sŵn y dref;y mae'n fyddar i floeddiadau gyrrwr.

8. Crwydra'r mynyddoedd am borfa,a chwilia am bob blewyn glas.

9. “A yw'r ych gwyllt yn fodlon bod yn dy wasanaeth,a threulio'r nos wrth dy breseb?

10. A wyt yn gallu ei rwymo i gerdded yn y rhych,neu a fydd iddo lyfnu'r dolydd ar dy ôl?

11. A wyt ti'n dibynnu arno am ei fod yn gryf?A adewi dy lafur iddo?

Job 39