Job 38:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ar beth y seiliwyd ei sylfeini,a phwy a osododd ei chonglfaen?

7. Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau,a'r holl angylion yn gorfoleddu,

8. pan gaewyd ar y môr â dorau,pan lamai allan o'r groth,

9. pan osodais gwmwl yn wisg amdano,a'r caddug yn rhwymyn iddo,

10. a phan drefnais derfyn iddo,a gosod barrau a dorau,

11. a dweud, ‘Hyd yma yr ei, a dim pellach,ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau’?

12. “A wyt ti, yn ystod dy fywyd, wedi gorchymyn y borea dangos ei lle i'r wawr,

Job 38