Job 38:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Pwy a benderfynodd ei mesurau? Mae'n siŵr dy fod yn gwybod!Pwy a estynnodd linyn mesur arni?

6. Ar beth y seiliwyd ei sylfeini,a phwy a osododd ei chonglfaen?

7. Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau,a'r holl angylion yn gorfoleddu,

8. pan gaewyd ar y môr â dorau,pan lamai allan o'r groth,

9. pan osodais gwmwl yn wisg amdano,a'r caddug yn rhwymyn iddo,

Job 38