2. Gwrandewch ar daran ei lais,a'r atsain a ddaw o'i enau.
3. Y mae'n ei yrru ar draws yr wybren,ac yn gyrru ei fellt i gilfachau'r byd.
4. Ar eu hôl fe rua;tarana â'i lais mawr,ac nid yw'n eu hatalpan glywir ei lais.
5. Tarana Duw yn rhyfeddol â'i lais;gwna wyrthiau, y tu hwnt i'n deall.
6. Fe ddywed wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear’,ac wrth y glaw a'r cawodydd, ‘Trymhewch’.
7. Y mae pob un yn cael ei gau i mewn,a phopeth a wnânt yn cael ei atal.
8. Â'r anifeiliaid i'w ffeuau,ac aros yn eu gwâl.
9. Daw'r corwynt allan o'i ystafell,ac oerni o'r tymhestloedd.